Uchelgais – Cyfle – Sgiliau
Addewid Caerdydd - Rydym yma i'ch helpu i ddeall y mathau o swyddi a diwydiannau sy'n tyfu yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ac i'ch cefnogi i ystyried pa swyddi a allai fod yn iawn i chi. Gallwn gynnig profiadau, cyfleoedd a sgiliau a all eich helpu i benderfynu a darganfod pwy ydych chi a phwy ydych chi eisiau bod!
Rydym yma i'ch helpu i ystyried a darganfod pwy ydych chi a phwy ydych chi eisiau bod! Mae gennym lwyth o brofiadau, adnoddau, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli a gwaith i chi eu darganfod.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen i chi siarad â rhywun! Rydym yma i chi!
Dyma’r meysydd lle bydd mwy a mwy o gyfleoedd gwaith yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd nesaf. Felly os nad ydych am symud o'ch ardal neu os na allwch wneud felly oherwydd ymrwymiadau teuluol neu arian, dyma rai o'r llwybrau hyfforddi neu addysg y gallech eu hystyried.
Mae'r sector hwn yn cynnwys pawb sy'n gweithio mewn siopau, tafarndai, bariau, gwestai a bwytai. Mae llawer o bobl ifanc yn gweithio yn y sector hwn.
Mae gweithwyr yn y sector hwn yn helpu pobl a busnesau eraill i ddelio ag arian. Mae hyn yn cynnwys banciau, cyfrifwyr, yswiriant a chwmnïau buddsoddi. Mae 50,000 o bobl yng Nghaerdydd yn gweithio yn y sector hwn.
Mae'r diwydiant hwn yn cynnwys yr holl bobl sy'n gwneud eich hoff ffilmiau a rhaglenni teledu ac yn serennu ynddynt, gemau a cherddoriaeth, yn ogystal â phobl sy'n gwneud celf. Mae Caerdydd yn gartref i Bad Wolf Studios, ac mae gan y BBC, ITV ac S4C i gyd stiwdios yn ein dinas.
Mae swyddi yn y diwydiant adeiladu yn amrywio o adeiladu ar y safle fel adeiladwyr, plymwyr a thrydanwyr, yn ogystal â rolau llai corfforol fel penseiri a syrfewyr. Mae 35,000 o bobl ledled Caerdydd yn gweithio yn y sector hwn.
Mae'r sector hwn yn ymwneud â gweithio gyda chyfrifiaduron i wella seiberddiogelwch, technoleg ariannol a meddygol, a swyddi sy'n cynnwys gweithio gyda chyfrifiaduron a ffonau neu’u trwsio.
Mae swyddi yn y sector hwn yn canolbwyntio ar greu a gwneud pob math o bethau, o feddyginiaeth a deunyddiau, i geir a threnau. Mae llawer o gwmnïau hefyd yn gweithio i wneud ynni glanach ac i leihau lefelau carbon.
Mae'r sector hwn yn cynnwys pob math o bobl sy'n gofalu am eich iechyd, fel meddygon, nyrsys, seicolegwyr a gweithwyr gofal. Mae 160,000 o bobl yng Nghaerdydd yn gweithio yn y sector hwn!
Mae swyddi yn y sector hwn yn cynnwys dylunio a gwneud y sglodion digidol a ddefnyddir mewn pob math o dechnoleg glyfar, o ffonau clyfar i geir trydan. Mae'r sector hwn yn newydd, a bydd yn creu llawer o swyddi newydd yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.
Addewid Caerdydd ar Waith
Edrychwch ar y Newyddion a’r Digwyddiadau diweddaraf - Addewid Caerdydd ar Waith yw’r enw ar y rhain gan eu bod yn rhoi syniad i chi o’r mathau o bethau sy’n digwydd yng Nghaerdydd sy’n helpu plant a phobl ifanc ledled y ddinas i symud tuag at hyfforddiant, addysg neu gyflogaeth. Mae’n bwysig i ni ein bod yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi.
Ffordd dda arall o weld mwy amdanom ni a chael gwybod sut y gallwch fanteisio ar y cyfleoedd hyn yw ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol!
P'un a ydych am barhau ag addysg, dilyn hyfforddiant, gwirfoddoli, dod o hyd i brentisiaeth neu ddechrau swydd - mae gennym lawer o opsiynau gwahanol a channoedd o gyfleoedd yn aros i chi! Ewch i Beth Nesaf i gael gwybod mwy – ychwanegir cyfleoedd newydd bob wythnos
Addewidion Diweddar:
Mae busnesau'n addo cefnogi plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd drwy ymrwymo i Addewid Caerdydd.
Mae 200 o fusnesau wedi ymrwymo iddo hyd yma!
Os ydych chi'n gyflogwr ac mae gennych ddiddordeb mewn cydweithio i greu cyfleoedd i bobl ifanc yna os gwelwch yn dda, ymunwch â ni ac addo eich cefnogaeth!